5 rheswm i gyfieithu’ch gwefan

  • translate-buttonMae pobl pedair gwaith fwy tebygol o brynu pethau oddi ar wefan sydd yn eu hiaith nhw. A fyddech chi’n prynu oddi ar wefan Almaeneg? Rwy’n tybio mai ‘na’ yw’r ateb, felly pam fyddai cwsmer posibl yn prynu eich nwyddau neu wasanaethau os mai yn Saesneg yn unig yw eich gwefan? Os eich ateb chi yw “achos bod pawb yn siarad Saesneg”, mae’n bryd i chi ailfeddwl. Tra bod 57% o wefannau yn Saesneg, yn ôl Internet World Stats 2012, ‘roedd 44.8% o ddefnyddwyr y We yn dod o wledydd Asia, sef mwy na dwywaith nifer defnyddwyr Ewrop (21.5%). Os nad yw bron hanner defnyddwyr y we ledled y byd yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf, mae nifer enfawr o gwsmeriaid posibl allan o gyrraedd neu yn methu gweld y nwyddau ‘rydych chi’n eu cynnig. Fel dywedodd Willy Brandt, “If I am selling to you, I speak your language. If I am buying, dann müssen sie Deutsch sprechen.”

 

  • Gall testun marchnata gael ei gamddeall yn y cyfieithiad. Darllenwch eich testun marchnata – ydy e’n cynnwys idiomau, bratiaith, cwestiynau rhethregol, cyfeiriadau sy’n benodol i’r DU? Yn aml mae’n anodd neu amhosibl cyfieithu’r rhain i ieithoedd eraill, felly maent naill ai yn cael eu camddeall gan y darllenwr neu, waeth byth, yn rhoi argraff negyddol o’r gwefan a all fod yn sarhaus neu’n ddryslyd. Os cyfieithwch chi eich gwefan, nid yn unig fydd gan y darllenwr syniad mwy clir o’r nwyddau neu wasanaethau ‘rydych chi’n cynnig, gall y testun hefyd gael ei leoleiddio er mwyn apelio at y farchnad ‘rydych yn ei dargedu. Wedi’r cwbl, dydych chi ddim am wneud camgymeriadau fel y rhain gyda’ch testun marchnata!

 

  • Mae’n bosibl bod eich gwefan yn barod wedi cael ei ‘gyfieithu’. Wrth i ddefnyddwyr cyrchu gwefan sydd ddim yn eu hiaith gyntaf gan ddefnyddio Google, mae Google yn holi p’un ai ydynt am gyfieithu’r dudalen. Gwaeth fyth, mae’n bosibl newid eich gosodiadau fel bod pob gwefan nad ydynt yn eich iaith gyntaf yn cael ei gyfieithu yn awtomatig gan Google wrth i chi eu cyrchu nhw. Mae gwallau Google Translate wedi dod i’r golwg, a fyddech chi eisiau i beiriant sy’n gwneud camgymeriadau fel hyn cyfieithu eich gwefan chi? Nid oes dim byd all gymryd lle gofyn i berson sy’n rhugl yn y ddwy iaith i ddarllen eich copi a’i gyfieithu i’r iaith a ddymunwyd, gan gymryd gofal i gyfleu bob arlliw.

 

  • Mae’r manteision yn ddiddiwedd! Fe allech chi ffeindio cyflenwyr newydd, agor eich meddwl at syniadau newydd a ffyrdd newydd o weithio, adnabod bylchau yn y farchnad dramor, dangos parodrwydd i gyfathrebu â chwsmeriaid a chyflenwyr yn eu hiaith eu hunain, cyflwyno nwyddau newydd i farchnad dramor a dod i fyny yn chwiliadau ieithoedd eraill. Mae safle Saesneg fel yr iaith sy’n cael ei ddefnyddio mwyaf ar y We yn dod i ben, gyda Tsieinëeg a Sbaeneg yn dechrau cymryd ei le, felly mae cyfieithu eich gwefan yn syniad crebwyll er mwyn sicrhau eich bod chi o flaen eich cystadleuwyr.

 

  • Gall fod yn haws nag ydych chi’n meddwl. Dydy cyfieithu a lleoleiddio eich gwefan ddim o reidrwydd yn her. Mae’r gwaith caled o ysgrifennu’r testun a defnyddio’r sgiliau technegol angenrheidiol ar gyfer creu a chynnal gwefan wedi cael ei wneud yn barod. Gall Business Language Services gyfieithu testun eich gwefan a’r bas data tu cefn i’r iaith a dymunwyd, gan ddarparu cyfieithiad o safon uchel, wedi ei rheoli gan Reolwr Prosiect penodol a’i brawf ddarllen gan ail ieithydd annibynnol. Mae Google yn argymell 250-300 gair y dudalen ac, yn seiliedig ar hwn, gall cyfieithu eich gwefan fod yn waith ychydig ddyddiau – felly beth sy’n eich atal chi!

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations