Easter-eggs-painted-WEBYma yng Nghaerdydd dethlir gwyliau’r Pasg penwythnos yma, ond sut mae gwledydd eraill y byd yn dathlu’r Pasg?

Yn y DU, mae’r dathliadau yn cynnwys rhoi wyau Pasg a mynd am helfa wyau Pasg, traddodiad a ddeilliodd o’r gred bod y gwningen Pasg yn dodwy wyau yn y gwair. Yn rhai ardaloedd yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae’n draddodiad rowlio wyau wedi’i addurno lawr bryniau, traddodiad a gafodd ei gymryd i’r UDA gyda rholio wyau Pasg yn cymryd lle yn y Tŷ Gwyn bob blwyddyn. Mae Latfiaid yn chwarae gêm sy’n debyg i concyrs â’u hwyau nhw – mae wyau wedi eu berwi yn cael eu clymu â chordyn ac yn cael eu bwrw yn erbyn ei gilydd. Yr wy cyfan olaf sy’n ennill y gystadleuaeth.

Yn Sbaen, mae Wythnos y Pasg, sef yr wythnos yn arwain at ddydd Sul y Pasg, yn wŷl cyhoeddus. Ceir gorymdeithiau o amgylch y wlad, gyda’r un mwyaf enwog yn Seville. Caiff cerfluniau a golygfeydd o’r Dioddefaint eu cario ar hyd y strydoedd ac mae’r cyfranogion yn gwisgo gynau a chyflau sy’n cuddio eu hwynebau. Mae gan y dathliadau elfen anfad yn nhref Verges ar ddydd Iau Cablyd. Yn ystod yr orymdaith, mae pobl wedi gwisgo fel sgerbydau yn perfformio’r Ddawns Angau, i atgoffa pawb y bydd marwolaeth yn digwydd  rhyw ddiwrnod!

Yn nhref Oberammegau yn yr Almaen mae’r bobl yn perfformio drama’r Pasg unwaith bob deng mlynedd. Dechreuodd y traddodiad ym 1634, pan addawodd trigolion y dref i berfformio’r ddrama unwaith pob deng mlynedd pe bai Duw yn eu hachub rhag y pla oedd yn lledu trwy Ewrop ar y pryd. Cynhelir perfformiad nesaf ddrama’r Pasg yn 2020.

Yn y Weriniaeth Tsiec a Slofacia, mae menywod yn cael eu bwrw â chwipiau dros wyliau’r Pasg i’w cadw yn iach ac yn brydferth am y flwyddyn i ddod. Ymhell o fod yn grac am y peth, mae’r menywod yn rhoi wyau wedi’u haddurno neu arian i’r dynion i’w diolch. Maent hefyd weithiau yn cael eu trochi gan ddŵr, traddodiad sy’n debyg i Smingus-Dyngus yng Ngwlad Pwyl, lle mae bechgyn a dynion ifanc yn ceisio gwlychu pawb gyda dŵr ar ddydd Llun y Pasg.

Traddodiad sydd wedi datblygu yn ddiweddar yn Norwy yw darllen neu wylio storïau ditectif dros y Pasg, gyda nofelau newydd yn cael eu cyhoeddi cyn y Pasg, a hyd yn oed storïau ar ochrau cartonau llaeth. Yn y Ffindir mae’r dathliadau yn fwy bwganllyd, gyda phlant yn gwisgo fel gwrachod â choesau ysgubau ac yn cyfnewid brigau helygen addurnedig am wyau.

Eleni bydd Cristnogaeth y Gorllewin a Christnogaeth Uniongred yn dathlu’r Pasg ar yr un diwrnod, sef 20 Ebrill. Felly, os ydych chi yng Nghorfu ym mis Ebrill eleni, gwyliwch rhag potiau a sosbenni yn cwympo o’r nefoedd – ar ddydd Sadwrn y Pasg mae pobl Corfu yn taflu llestri pridd o’u ffenestri ac yn eu chwalu ar y strydoedd!

Sut bynnag a lle bynnag y penderfynwch chi ddathlu eleni, rydym yn gobeithio y gwnewch chi fwynhau gwyliau’r Pasg.

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations