Ieithoedd Caerdydd

censusYn 2013 datganwyd canlyniadau atebion i’r cwestiwn “Beth yw eich prif iaith?” a gafodd ei gynnwys yng Nghyfrifiad 2011. Mae’r tabl isod yn cynnwys gwybodaeth sydd yn ymddangos ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Yn gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, Pwyleg oedd ar y brig ymhlith yr ieithoedd tramor. Er hynny, yma yng Nghaerdydd Arabeg yw’r iaith dramor gyda’r nifer fwyaf o siaradwyr, mae Pwyleg ail yn y rhestr. Yn ogystal, yn Wrecsam mae’r nifer fwyaf o siaradwyr Pwyleg, gyda Chaerdydd, y brif ddinas, yn rhestru chweched.

91.7% o’r atebwyr sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg fel prif iaith. Mae’r mwyafrif o bobl a gofnododd iaith arall fel eu prif iaith hefyd yn gallu siarad Saesneg – dim ond 0.3% o atebwyr Cyfrifiad 2011 yng Nghaerdydd hawliodd nad oeddent yn gallu siarad Saesneg o gwbl.

Cynyddodd canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd i 11.1%, o’i gymharu â 11.0% yn 2001, sy’n wahanol i’r lleihad cyffredinol a drafodwyd mewn blog cynharach. Cymraeg oedd prif iaith Caerdydd rhwng yr 1300au a’r cyfnod o dwf yn y 19eg ganrif. Erbyn 1891, roedd canran y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 27.9% a Llysfaen, Llanedern a Chreigiau oedd yr unig gymunedau ar ôl lle’r oedd y mwyafrif yn siarad Cymraeg. Parhaodd y cwymp yma tan Gyfrifiad 2001, lle bu cynyddiad bach o’i gymharu â 1991.

Yn ogystal â Chymraeg a Saesneg, mae nifer o ieithoedd wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd dros y canrifoedd gan gynnwys Ffrangeg Normanaidd a Hen Norwyeg. Mae safle Caerdydd fel porthddinas yn golygu bod nifer o gymunedau ymfudwyr hir sefydlog yma, er enghraifft rhai o’r Yemen a Somalia. Fel y gwelir o’r tabl, mae Arabeg a Somalieg yn parhau i fod ymhlith 5 prif iaith y ddinas. Mae ieithoedd isgyfandir India hefyd â chynrychiolaeth dda yn y ddinas, gyda Bengaleg â’r nifer fwyaf o siaradwyr. Mae gan ieithoedd Gorllewin Ewrop bresenoldeb cryf yng Nghaerdydd, gan gynnwys Ffrangeg, Portiwgaleg, Sbaeneg, Eidaleg, Groeg ac Almaeneg, yn y drefn yna. Mae ieithoedd Dwyrain Ewrop hefyd yn bresennol. Pwyleg sydd â’r nifer fwyaf o siaradwyr, gyda Tsieceg, Slofaceg, Hwngareg, Rwmaneg a Lithwaneg yn dilyn. Mae ieithoedd Tsieinëeg hefyd yn amlwg, ieithoedd Tsieinëeg amrywiol sydd â’r nifer mwyaf o siaradwyr, gyda Cantoneg a Mandarin yn dilyn.

Os hoffech chi ddysgu iaith arall, mae’n werth ystyried sut hoffech chi ddysgu, yn ogystal â pha iaith yr hoffech chi ddysgu. Mae Business Language Services yn darparu cyrsiau pwrpasol wedi’u haddasu at eich anghenion chi yn yr ieithoedd yma a nifer o rai eraill. Mae dysgu mewn grŵp bach neu un i un yn golygu dydych ddim yn gwastraffu amser ar weithgareddau sydd ddim o ddiddordeb i chi, ac mae mwy o amser yn cael ei wario yn ceisio cyrraedd eich nodau personol. Cysylltwch â ni er mwyn trafod eich anghenion a diddordebau penodol.

 

 

Iaith

 

                 Nifer                      Canran
Saesneg (yn cynnwys siaradwyr Cymraeg)

304,729

91.7

Cymraeg

36,735

11.1

Arabeg

3561

1.1

Pwyleg

2650

0.8

Bengaleg

2431

0.7

Tsieinëeg (heblaw am Fandarin neu Cantoneg)

1703

0.5

Somalieg

1393

0.4

Wrdw

1214

0.4

Ffrangeg

766

0.2

Perseg/Farsi

734

0.2

Portiwgaleg

682

0.2

Pwnjabeg

643

0.2

Gwjarati

610

0.2

Tsieceg

601

0.2

Sbaeneg

597

0.2

Eidaleg

549

0.2

Cwrdeg

540

0.2

Pashto (Afghanistan, Pacistan)

536

0.2

Groeg

529

0.2

Hindi

525

0.2

Almaeneg

434

0.1

Slofaceg

423

0.1

Malaialam (India)

417

0.1

Maleieg (Malaysia, Indonesia, Brunei)

383

0.1

Tagalog/Ffilipino

382

0.1

Cantoneg

360

0.1

Tamil (India/Sri Lanka)

325

0.1

Rwsieg

286

0.1

Mandarin

258

0.1

Hwngareg

256

0.1

Rwmaneg

212

0.1

Telwgw (India)

196

0.1

Lithwaneg

192

0.1

Iseldireg

180

0.1

Thai

174

0.1

Japaneg

173

0.1

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations