Dydd Gŵyl Dewi

daffodil1Ar y 1af o Fawrth dethlir Dydd Gŵyl Dewi, diwrnod nawddsant Cymru. Mae’r cwestiwn o sut i ddathlu ein diwrnod cenedlaethol yn un dyrys. Mae nifer o wledydd yn cyhoeddi gŵyl gyhoeddus ar eu diwrnod arbennig nhw, ond yng Nghymru mae’n cael ei ystyried yn ddiwrnod gwaith fel unrhyw ddiwrnod arall. Yn 2000, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid gwneud Mawrth y cyntaf yn ŵyl gyhoeddus. Er hyn, ac er gwaethaf cyflwyno nifer o ddeisebau o blaid gŵyl gyhoeddus yn y blynyddoedd diwethaf, mae’n parhau i fod yn niwrnod gwaith yng Nghymru. Ceir gorymdeithiau yn ambell dref a dinas fel adloniant i’r rhai nad ydynt yn gweithio, er enghraifft yng Nghaerdydd a Bae Colwyn. Yn draddodiadol, ceir eisteddfodau yn ysgolion ar Ddydd Gŵyl Dewi, gyda’r plant yn gwisgo’r wisg draddodiadol. Bydd cymdeithasau Cymraeg yng Nghymru a thramor yn dathlu’r diwrnod trwy gynnal ciniawau, o bosibl gyda phryd traddodiadol fel cawl, tra bydd eraill yn bodloni ar wisgo cenhinen neu genhinen Pedr.

Gellir dadlau y byddai well gan Dewi Sant ddathliad syml beth bynnag, ei arwyddair oedd “gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i”. Roedd Dewi Sant a’r mynaich yn dilyn egwyddorion asgetig, eu lluniaeth arferol oedd bara a llysiau a dim ond dŵr yr oedden nhw’n yfed (er i rai dadlau taw capelwyr dirwest wnaeth ychwanegu agwedd y dŵr yn hwyrach). Pan yn ddyn ifanc, fe wellodd Dewi Sant  dallineb ei diwtor , ond ei wyrth fwyaf enwog oedd codiad y tir o dan ei draed yn Llanddewi Brefi  i alluogi y gynulleidfa  i’w weld a’i glywed yn pregethu. Bu farw ar 1 Mawrth 589 AD yn gan mlwydd oed.

Eleni mae Mawrth y cyntaf yn cwympo ar ddydd Sadwrn.  Mae BLS yn dymuno Dydd Gŵyl Dewi hapus i bobl Cymraeg a’u ffrindiau, p’un ai’n gweithio neu ar wyliau!

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations