Dydd Calan Mai Hapus!

800px-New_York_RenFaire_2004_maypoleMae Calan Mai, gŵyl Geltaidd Beltane a gŵyl Walpurgis yn yr Almaen, yn ŵyl y Gwanwyn yn hemisffer y gogledd. Yn draddodiadol ’roedd yn dynodi dechrau’r haf, fel y gwelir o enw arall yr ŵyl yn Gymraeg, Calan Haf, sy’n dod heibio chwe mis ar ôl Calan Gaeaf. Dywedwyd bod derwyddon yn chwarae rôl bwysig yn nefodau hynafol yr ŵyl, yn cynnwys gyrru gwartheg rhwng tanau i’w diogelu rhag salwch. Cynnwyd tanau ar fryniau De Cymru tan ganol y 19eg ganrif, ond defod fwyaf nodweddiadol yr ŵyl baganaidd hon yw dawns y fedwen Fai.

Yn ogystal â dawnsio o amgylch y fedwen Fai, yr oedd dathliadau Calan Mai yn cynnwys brwydr ffug rhwng person yn cynrychioli’r Gaeaf ac un arall yn cynrychioli’r Haf, a oedd yn diweddu ym muddugoliaeth yr Haf a choroni Brenin a Brenhines Mai. Roedd hwn yn cael ei ddilyn gan ddawnsio, gwledda, gemau, yfed a chanu. Yng Nghymru, addurnwyd tai gyda draenen wen oedd yn symboleiddio ffrwythlondeb a thwf, a hyd heddiw yn Ffrainc a Gwlad Belg mae’n parhau i fod yn arfer i roi lili’r dyffrynnoedd fel anrheg. Fel nifer o wyliau eraill, roedd Calan Mai yn amhoblogaidd gyda Phrotestaniaid yn y 16eg ganrif, a oedd yn gweld dawnsio o amgylch y fedwen Fai yn eilunaddoliaeth anfoesol. Yn yr Alban, y Presbyteriaid wnaeth atal dathlu’r ŵyl. Yn Lloegr ac yng Nghymru, fe waharddodd y weriniaeth y traddodiadau, ond fe ddaeth yr ŵyl hyd yn oed yn fwy poblogaidd unwaith i’r frenhiniaeth ddychwelyd. Maent dal yn cynnal dathliadau yn Rhydychen a dinasoedd eraill yn Lloegr, yn cynnwys dawnsio Morys, corau a chanu madrigal, tra bod Beltane yn cael ei ddathlu gan gynnai tanau enfawr yng Nghaeredin.

Heddiw, dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ledled y byd ar ddydd Calan Mai, i gofio am y gweithwyr cafodd eu lladd yn 1856 yn Chicago pan oeddent yn protestio o blaid diwrnodau gwaith 8 awr wrth i’r heddlu ymateb i fom. I Gatholigion, mae hefyd yn ddydd San Joseff y gweithiwr. Mae’n ŵyl gyhoeddus yn 80 gwlad ac fe’i dathlir mewn nifer o wledydd eraill hefyd.

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations