Diwrnod Ewrop hapus!

EuroParlAr y 9fed o Fai dethlir Diwrnod Ewrop i gofio Datganiad Schuman 9 Mai 1950. Y datganiad hwn a awgrymodd sefydlu Cymuned Glô a Dur Ewrop, rhagflaenydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). Wrth i ni ddathlu, rydym hefyd yn ymwybodol fod y dyddiau hyn yn rai anodd i ddelwedd yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig yma yn y Deyrnas Unedig ble mae’r blaid sydd mewn grym wedi addo refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE os bydd yn ennill yr etholiad nesaf. Yn ogystal, gwelwyd enillion sylweddol i blaid gwrth-UE yn etholiadau cyngor Lloegr yr wythnos ddiwethaf.

I geisio annog pleidleiswyr Prydeinig i aros yn yr UE, awgrymodd Joachim Gauck, Arlywydd yr Almaen, yn ddiweddar y dylai Saesneg ddod yn unig iaith swyddogol yr UE. Ar hyn o bryd mae gan yr Undeb 23 iaith swyddogol a thair iaith gwaith – Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Nid yw’n debyg i’r alwad blesio’r Ffrancwyr nag unrhyw un arall sy’n poeni am ddomiwnyddiaeth y Saesneg. Yn 2006, pan glywodd Jacques Chirac, Arlywydd Ffrainc ar y pryd, gydwladwr yn siarad Saesneg yn hytrach na Ffrangeg mewn uwch-gynhadledd Ewropeaidd, fe’i cythruddwyd i’r fath raddau fel y gadawodd yng nghanol y gynhadledd.

Mae Prydeinwyr yn cael eu tangynrychioli ymysg staff sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd. Yn 2011 roedd gweithwyr o Brydain yn llenwi 5% o swyddi’r Senedd a’r Comisiwn, er bod y Deyrnas Unedig yn cynnwys 12% o boblogaeth yr UE. Ni fydd yn syndod mai sgiliau ieithoedd tramor gwael yw’r rheswm pennaf am y bwlch. Mae’n rhaid i siaradwyr Saesneg fel mamiaith fedru un ai’r Ffrangeg neu’r Almaeneg yn ogystal â’r Saesneg i weithio i’r UE.

Yn anffodus, mae agweddau negyddol tuag at integreiddio Ewropeaidd a pheidio rhoi pwyslais ar ddysgu ieithoedd yn golygu fod pobl ifanc yn colli’r cyfle i gael gyrfaoedd gwych, nid yn unig gyda’r sefydliadau Ewropeaidd, ond hefyd mewn llawer o feysydd ble mae ieithoedd Ewropeaidd yn ddefnyddiol. Er gwaethaf cryfder economi Tsieina a thwf y gwledydd canolig BRICS, ieithoedd Ewropeaidd yw’r ieithoedd mwyaf defnyddiol i bobl Prydain o hyd. Mae nifer y rhai sy’n sefyll Lefel Uwch Almaeneg a Ffrangeg yng Nghymru a Lloegr wedi disgyn o fwy na hanner rhwng 1996 a 2012, ond yr ieithoedd hyn yw’r rhai mwyaf manteisiol o hyd ym marn cyflogwyr.

Os na chawsoch chi wersi ieithoedd yn yr ysgol (neu os cysgoch chi drwyddynt), gall Business Language Services fod o gymorth gyda chyrsiau pwrpasol i weddu i’ch anghenion penodol a’ch amserlen. Efallai y byddwch yn gallu dymuno Journée de l’Europe, Europatag neu Dzień Europy hapus i’ch ffrindiau’r adeg hon flwyddyn nesaf.

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations