Dydd San Ffolant

 

Dydd San Ffolant

 

Dethlir Dydd San Ffolant ar 14 Chwefror. Yn wreiddiol, diwrnod er coffâd am ferthyr Cristnogol oedd y diwrnod hwn, ond heddiw gŵyl y cariadon yw 14 Chwefror, gyda pharau yn cyfnewid anrhegion rhamantus a chardiau. Mae’r ŵyl yn cael ei dathlu mewn ffyrdd amrywiol o gwmpas y byd. Yn y Ffindir, er enghraifft, maent yn cysegru’r dydd i ffrindiau yn hytrach na chariadon, tra yn Slofenia, dywedir taw’r adar sy’n priodi ar y diwrnod hwn. Yn Japan, mae disgwyl i fenywod brynu siocledi i bob un o’u cydweithwyr gwrywaidd.

 

Er y dathlir Dydd San Ffolant dros y byd i gyd, mae gan rai gwledydd arferion unigryw eu hun. Yma yng Nghymru, er enghraifft, dethlir Diwrnod Santes Dwynwen (25 Ionawr) yn ogystal â Dydd San Ffolant. Mae pobl fwy traddodiadol yn Rwmania yn gwrthod dathlu Dydd San Ffolant, gan hybu dathlu dydd cariadon traddodiadol Rwmania, Dragobete, yn ei le, ar 24 Chwefror. Mae’r ŵyl wedi ei wahardd yn Sawdi-Arabia, er hyn, mae sôn ar led fod marchnad ddu lwyddiannus mewn rhosynnau wedi datblygu yno yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Isod gweler rhestr o gyfieithiadau o’r ymadrodd ‘Rwy’n dy garu di’ mewn ieithoedd gwahanol. Os ydych am anfon neges hirach at eich cariad, gall Business Language Services eich helpu chi gyda chyfieithiadau i mewn i unrhyw un o ieithoedd y byd.

 

 

 

Iseldireg Ik hou van jou
Ffrangeg Je t’aime
Almaeneg Ich liebe Dich
Hawäieg Aloha Ia Au Oe
Eidaleg Ti amo
Pwyleg Kocham Cię
Sbaeneg Te quiero
Swedeg Jag älskar dig
Mandarin 我爱你 (wǒ ài nǐ)
Swahili Ninakupenda
Arabeg uḥibbik (female), uħibbak (male)
Rwsieg Я тебя люблю! (Ja teb’a l’ubl’u!)

 

 

 

 

Leave a comment

Testimonials

Don’t just take our word for it. Here’s what our clients have to say…

Our Clients

Our Accreditations