Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Mae gan Business Language Services (BLS) ganolfan hyfforddi â’r cyfarpar angenrheidiol yng Nghaerdydd ond gallwn ddarparu hyfforddiant yn eich cartref neu swyddfa, mewn lleoedd eraill yn y Deyrnas Unedig.
Mae pedwar prif fath o fformat hyfforddi:
Mae sesiynau rheolaidd bob wythnos, fel arfer am ddwy awr ar y tro, dros ugain wythnos neu fwy, yn aml yn ddelfrydol pan nad oes brys i ddysgu’r iaith, yn enwedig ar gyfer grwpiau yn y gweithle.
Mae cyrsiau dyddiol dwys (6 awr y diwrnod, wedi eu trefnu fel gweithdy wythnos gyfan neu yn rheolaidd) yn dda pan fo angen cyrraedd lefel benodol erbyn dyddiad pendant, efallai oherwydd rôl newydd neu i gic danio cyn dechrau cwrs rheolaidd. Mae gweithwyr a rheolwyr prysur yn aml yn ei chael yn haws i gadw wythnos yn eu dyddiadur ac i ddianc rhag caniad y ffôn er mwyn ymdrochi yn y broses o ddysgu iaith.
Tebyg i’n cyrsiau dwys ond bod yr hyfforddiant yn cael ei drefnu fel cyfres o sesiynau hanner diwrnod (sesiynau o 3 awr).
Mae’r ffurf hwn o hyfforddiant yn gweddu i’r rhai sydd eisiau datblygu’n gyflym gan fod y dysgwyr yn cael eu trochi yn yr iaith Saesneg a diwylliant Prydeinig ac yn cael cyfle uniongyrchol i ymarfer eu sgiliau.
Yn ogystal â’r fformatau uchod, rydym yn falch i lansio’r fformatau newydd canlynol
Os hoffech drafod unrhyw fformatau cyrsiau eraill na restrir yma, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i’w hystyried.