[X] Close

Request a Free Quote

Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.

Contact Information

Please upload the file required for translation (optional):

Language Information



 Translation Interpreting Training

  • Business Language Services

Gofynnwch am bris



 Interpreting Translation Training

Language Quiz

 

Dros y blynyddoedd rydym wedi adeiladu cronfa ddata gynhwysfawr o diwtoriaid dibynadwy, wedi eu dethol yn ofalus yn ôl eu cymwysterau a’u profiad.

Rydym yn dilyn proses drwyadl i sicrhau bod yr athrawon fydd yn eich dysgu yn wybodus, yn ddigon hyblyg i addasu i’ch cyfyngiadau amser ac yn ddyfeisgar fel eu bod yn gallu gweddu i’ch arddull chi o ddysgu.

Wrth recriwtio tiwtoriaid newydd, y peth cyntaf a wnawn yw gwirio eu CV ac yna, os ydym yn hapus gyda’i gynnwys, rydym yn eu gwahodd am gyfweliad gyda’r rheolwr hyfforddiant ieithoedd a’r cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am hyfforddiant. Wedi cyfweliad llwyddiannus, byddwn bob tro’n gofyn i’r tiwtor ddarparu dau neu dri geirda.

Cyn anfon y tiwtor ar ei aseiniad cyntaf dros Business Language Services (BLS), rydym yn darparu hyfforddiant ymsefydlu. Manteisiwn ar y cyfle hwn i ddangos ein methodoleg, ein gweithlenni a’r adnoddau a luniwyd gan BLS yn ogystal â’n llyfrgell o adnoddau copi caled a’n gwefannau a dogfennau ar-lein. Bydd croeso iddynt ddefnyddio unrhyw rai o’r rhain yn eu gwersi. Rydym yn cynnig cefnogaeth iddynt drwy gydol y cwrs os oes angen deunydd pwrpasol ychwanegol arnynt.

Unwaith bydd tiwtor wedi ei benodi, byddwn yn arsylwi un o’i ddosbarthiadau ac yn gofyn am adborth gan y disgyblion.

Mae’r dull gweithredu hwn yn sicrhau y byddwch yn derbyn yr hyfforddiant gorau posibl ac yn gallu llwyr fanteisio ar eich cwrs.

I drafod eich gofynion neu i ofyn am bris, ffoniwch 02920 667666.