[X] Close

Request a Free Quote

Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.

Contact Information

Please upload the file required for translation (optional):

Language Information



 Translation Interpreting Training

  • Business Language Services

Gofynnwch am bris



 Interpreting Translation Training

Language Quiz

SAFONAU’R DEYRNAS UNEDIG AC EWROPEAIDD

Mae holl hyfforddiant BLS yn cydffurfio â Safonau Iaith Galwedigaethol y Deyrnas Unedig a gallwn hefyd asesu lefelau unigol yn ôl Fframwaith Cyffredin Safonau Iaith Cyngor Ewrop.

HYFFORDDIANT PWRPASOL

Mae BLS yn falch o’i gyrsiau pwrpasol. Nid yn unig maent yn bodloni anghenion cyffredinol busnesau sydd angen cymhwyster ffurfiol ond maent hefyd yn cynnwys pynciau sydd yn benodol i’ch swydd, tasgau a chyfrifoldebau. Pa un ai yn ffurfiol neu yn anffurfiol, byddwn yn cadw llygad ar gynnydd ein myfyrwyr ac yn asesu eu gafael o’r wybodaeth newydd yn ddi-baid.

CYMWYSTERAU

Mae Business Language Services (BLS) yn ganolfan wedi ei chymeradwyo ar gyfer cymwysterau galwedigaethol gan yr OCR (Arholiadau Rhydychen, Caergrawnt a’r RSA [Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau]). Gallwn gynnig Tystysgrif Sgiliau Iaith ar gyfer Busnes (CBLC) yn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Sbaeneg o lefel dechreuwyr i Lefel 3. Mae’r cymwysterau hyn yn profi’r pedair sgìl (siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu) gyda’i gilydd neu fel modylau ar eu pennau eu hunain ac yn mynd i’r afael â phynciau sy’n addas i’r gweithle o gyfarch cwsmeriaid hyd at ddarllen negeseuon e-bost neu ddelio gyda thrafodaethau cymhleth ar y ffôn.

Chwefror 2011 fydd y cyfle olaf i gofrestru ar gyfer arholiadau’r cymhwyster hwn yng Ngorffennaf 2011. Wedi hynny, bydd y CBLC yn cael ei ddisodli gan y Cymwysterau Cenedlaethol Galwedigaethol (NVQs) mewn ieithoedd a byddwn yn cyflwyno cais i ddarparu’r cymwysterau hyn maes o law.

I drafod eich anghenion neu i ofyn am bris, cwblhewch y ffurflen isod neu ffoniwch 02920 667666.