Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Hoffwn drosglwyddo sylwadau ein hasiant a ddywedodd mai’r cyfieithiad hwn oedd y cyfieithiad technegol gorau iddo weld erioed. Credwn eich bod yn darparu gwasanaeth ardderchog.
BW Manufacturing
Mae’r cyfieithiad yn berffaith. Hoffwn longyfarch eich tîm; mae cyfieithu 34 o ffeiliau mewn un wythnos yn ganmoladwy!
Spie SA
Spie SA
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i farn uchel iawn o Business Language Services a byddwn yn eich argymell i eraill.
Spectrum Technologies
Unwaith eto, diolch o galon i chi am y gwaith caled, cyflym ac effeithlon ar y cyfieithiadau hyn.
Visit Britain
VisitBritain.com
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i chi am ‘ddod i’r adwy’ – roedd eich gwaith a’ch tîm yn ardderchog. Rydym ein dau yn wirioneddol ddiolchgar. Mae’n ymddangos y byddwn yn priodi wedi’r cwbl!
Ann Walsh and Frank Dierikx
Diolch yn fawr iawn i chi am eich cymorth gyda’n cyfarfod, ac yn arbennig am eich amynedd gyda rhai o’r siaradwyr! Cefais ymateb da iawn gan y grŵp oedd yn gwerthfawrogi eich gwaith a safon y cyfieithu ar y pryd Sbaeneg.
Bwrdd yr Iaith Gymraeg
Diolch yn fawr am eich holl gymorth cyn ac yn ystod y digwyddiad – gwasanaeth eithriadol a chyfeillgar iawn. Cafodd argraff dda iawn arnaf a byddaf yn eich argymell i ddefnyddwyr eraill.
Trefnydd Digwyddiadau’r GIG
Ysgrifennaf i fynegi fy niolchgarwch am wasanaeth o safon eithriadol o uchel a gafwyd gennych yng nghynhadledd ENOC (Rhwydwaith Ewropeaidd yr Ombwdsmyn Plant) yn ddiweddar. Dywedodd sawl cyfranogwr bod y gwasanaeth ymysg y gorau iddynt brofi erioed. Byddwch gystal â throsglwyddo fy niolchgarwch i’ch tîm.
Comisiynydd Plant Cymru
Ewch i’r wefan
Rhaid i mi ddweud bod eich cyfieithwyr ar y pryd Ffrangeg yn WYCH! Roedd eu gwaith yn ardderchog ac aethant i’r afael â phob math o geisiadau yn dda iawn ac mewn hwyliau da. Roedd y technegydd hefyd yn rhagorol ac wedi dygymod yn dda â’r ffaith bod rhaid newid gosodiad yr ystafell yn gyfan gwbl fore Sadwrn!
Traffig Cymru
Diolch yn fawr iawn am eich cymorth. Aeth pob peth yn rhwydd a gwnaethoch waith gwych – proffesiynol gyda dogn bach dymunol o anffurfioldeb.
Roedd y cyfieithwyr ar y pryd yn gweithio mewn maes anodd yn cwmpasu Eiddo Deallusol a fferylliaeth; dylid eu cymeradwyo am wneud gwaith mor dda. Roedd y ddau’n ddymunol iawn, daethant yn rhan o’r grŵp a helpodd hynny greu awyrgylch gyfeillgar a chynhyrchiol. Chwaraeodd hyn ran bositif yn llwyddiant y digwyddiad.
Gweithiodd yr offer i gyd yn berffaith ac roedd ansawdd y sain yn uchel. Gosodwyd ac aethpwyd ymaith â’r offer yn gyflym, heb unrhyw broblem. Roedd y technegydd ar gael pan oedd ei angen, bob amser yn barod i helpu siaradwyr gyda meicroffonau llabed, cysylltu’r meicroffonau a’u diffodd pan oeddynt wedi eu gadael ymlaen ac ati. Da iawn.
Swyddfa Eiddo Deallusol
http://www.ipo.gov.uk/
Defnydd proffesiynol iawn o hyfforddwyr. Awyrgylch gyfeillgar. Cyflymder anodd ond realistig.
Bosch UK
http://www.bosch.co.uk
Roedd y cwrs yn hollol foddhaol i mi. Gorfododd fi i siarad a gwnaeth hynny fy helpu i ehangu fy ngwybodaeth a magu hyder.
L’Oréal
http://www.loreal.co.uk
Cwrs a weithredwyd yn broffesiynol iawn. Roedd y tiwtor yn gallu addasu’r cyflymder a’r cynnwys i fy anghenion a hefyd ddarparu ystod o wybodaeth ddiwylliannol ddefnyddiol.
Deutsche Bank
Roeddwn i’n arbennig o hoff o allu, amynedd a charedigrwydd fy athrawon.
Spie Batignolles, Ffrainc
Teimlais fod deunydd y cwrs yn briodol iawn ac wedi ei addasu i fy lefel.
Linde-Xiamen, Tseina
Fe wnes i fwynhau’r cwrs a’r lletygarwch yn fawr iawn.
Lucas Girling SA, Sbaen
Hon oedd fy nhrydedd ysgol iaith, a’r gorau o bell ffordd.
Robert Bosch, Yr Almaen