Dydd San Ffolant

Dydd San Ffolant

Dethlir Dydd San Ffolant ar 14 Chwefror. Yn wreiddiol, diwrnod er coffâd am ferthyr Cristnogol oedd y diwrnod hwn, ond heddiw gŵyl y cariadon yw 14 Chwefror, gyda pharau yn cyfnewid anrhegion rhamantus a chardiau. Mae’r ŵyl yn cael ei dathlu mewn ffyrdd amrywiol o gwmpas y byd. Yn y Ffindir, er enghraifft, maent yn cysegru’r dydd i ffrindiau yn hytrach na chariadon, tra yn Slofenia, dywedir taw’r adar sy’n priodi ar y diwrnod hwn. Yn Japan, mae disgwyl i fenywod brynu siocledi i bob un o’u cydweithwyr gwrywaidd.

Er y dathlir Dydd San Ffolant dros y byd i gyd, mae gan rai gwledydd arferion unigryw eu hun. Yma yng Nghymru, er enghraifft, dethlir Diwrnod Santes Dwynwen (25 Ionawr) yn ogystal â Dydd San Ffolant. Mae pobl fwy traddodiadol yn Rwmania yn gwrthod dathlu Dydd San Ffolant, gan hybu dathlu dydd cariadon traddodiadol Rwmania, Dragobete, yn ei le, ar 24 Chwefror. Mae’r ŵyl wedi ei wahardd yn Sawdi-Arabia, er hyn, mae sôn ar led fod marchnad ddu lwyddiannus mewn rhosynnau wedi datblygu yno yn y blynyddoedd diwethaf.

Isod gweler rhestr o gyfieithiadau o’r ymadrodd ‘Rwy’n dy garu di’ mewn ieithoedd gwahanol. Os ydych am anfon neges hirach at eich cariad, gall Business Language Services eich helpu chi gyda chyfieithiadau i mewn i unrhyw un o ieithoedd y byd.

 

IseldiregIk hou van jou
FfrangegJe t’aime
AlmaenegIch liebe Dich
HawäiegAloha Ia Au Oe
EidalegTi amo
PwylegKocham Cię
SbaenegTe quiero
SwedegJag älskar dig
Mandarin我爱你 (wǒ ài nǐ)
SwahiliNinakupenda
Arabeguḥibbik (female), uħibbak (male)
RwsiegЯ тебя люблю! (Ja teb’a l’ubl’u!)