[X] Close

Request a Free Quote

Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.

Contact Information

Please upload the file required for translation (optional):

Language Information



 Translation Interpreting Training

  • Business Language Services

Gofynnwch am bris



 Interpreting Translation Training

Language Quiz

Rydym yn deall bod gwedd eich dogfennau a’ch gwefan yn bwysig i chi. Fel rhan o’n gwasanaeth cyfieithu dogfennau, gadewch i ni eich helpu i gynhyrchu deunydd rhyngwladol fydd yn portreadu delwedd bositif o’ch cwmni ac yn fanteisiol i’ch busnes.

Mae BLS yn darparu gwasanaeth cyhoeddi pen-bwrdd (DTP) a chysodi. Rydym yn croesawu’r cyfle i reoli’r holl broses gynhyrchu drosoch chi, o ysgrifennu copi a dylunio hyd at gyflwyno’r cynnyrch terfynol. Byddwn yn sicrhau nad oes acenion ar goll, nad yw geiriau mewn ieithoedd tramor yn cael eu gwahanu yn y mannau anghywir ac y defnyddir y ffontiau a’r arddulliau cywir. Hefyd, bydd ein prawf ddarllenwyr yn sicrhau na fydd gwallau teipio’n cael eu hychwanegu yn ystod cam olaf y broses gynhyrchu.

Mae dogfen wedi ei chysodi’n dda yn helpu’r darllenwyr i ddeall eich neges ac yn rhoi argraff well. Mae ein gweithwyr DTP proffesiynol yn gweithio gyda PC a Macs gan ddefnyddio’r feddalwedd ddiweddaraf yn cynnwys PowerPoint, QuarkXPress, Adobe InDesign, Illustrator, Photoshop ac Acrobat Professional a byddant yn gweithio gyda chi i sicrhau bod y gwaith yn bodloni eich gofynion.

Mae gwasanaethau BLS ar gyfer gwefannau amlieithog yn cynnwys cyhoeddi ar y we a lleoleiddio mewn nifer o ieithoedd. Gall ein gweithwyr rhyngrwyd proffesiynol ymdrin â thestun mewn fformat html, xml a Flash a gyda phob system rheoli cynnwys.

Ffoniwch ni ar 02920 667666 i drafod eich anghenion neu i gael pris.