Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Wedi ei leoli yng Nghaerdydd, mae Business Language Services Ltd. (BLS) yn arbenigo mewn cyfieithu Cymraeg (o Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i Saesneg). Mae gennym rwydwaith eang o gyfieithwyr Cymraeg profiadol a chymwys. Yn ogystal, caiff pob un o’n cyfieithiadau Cymraeg eu prawf ddarllen gan ail ieithydd annibynnol. Mae gan BLS restr faith o gyfieithwyr llafar Cymraeg wedi eu dethol yn ôl eu harbenigedd, gwybodaeth benodol, agwedd gyfeillgar a dibynadwyedd proffesiynol. Mae BLS hefyd yn gweithio gyda rhai o’r tiwtoriaid Cymraeg gorau, sydd yn ein galluogi i gynnig cyrsiau pwrpasol i chi i weddu i’ch angen neilltuol ac i’ch amserlen waith.
Mae’r iaith Gymraeg yn un o ddisgynyddion yr iaith Geltaidd-Frythoneg a siaradwyd gynt yn y rhan fwyaf o Brydain Fawr. Mae’n bosib ei bod mor hen â 4,000 o flynyddoedd. Mae’n chwaer i’r Llydaweg a’r Gernyweg ac yn gyfnither i’r Wyddeleg, Gaeleg yr Alban a’r Fanaweg. Syr William Jones, Cymro yn India yn y 18fed ganrif a sylwodd ar y tebygrwydd rhwng y Gymraeg a’r Sansgrit ac a baratôdd y ffordd tuag at fwy o ymchwil i deuluoedd ieithyddol Ewrop.
Daw’r farddoniaeth Gymraeg gynharaf o’r ardal a adwaenir yn awr fel Gogledd Lloegr a De’r Alban oddeutu’r flwyddyn 500 O.C. Gyda dyfodiad y Sacsoniaid, cafodd yr ieithoedd Celtaidd eu symud i’r gorllewin, gan adael dim ond ychydig o eiriau ac enwau llefydd yn Lloegr a’r Alban fel Aberdeen a’r geiriau corgi a penguin. Galwai’r Sacsoniaid ‘Welsh’ sef tramorwyr, ar eu cymdogion tra galwai’r Cymry eu hunain yn Gymry, sef ‘cydwladwr’ neu ‘gydymaith’.
Dywed rhai pobl ei bod yn anodd i siaradwyr Saesneg ddysgu’r Gymraeg a bod ganddi enwau lleoedd sydd yn amhosibl eu hynganu. Mae Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn enghraifft. Hwn yw’r enw lle hiraf yn Ewrop a’r enw gorsaf drên hiraf yn y byd. Yn groes i’r gred gyffredinol, mae’r iaith Gymraeg yn defnyddio llafariaid (mae ‘y’ ac ‘w’ yn llafariaid yn y Gymraeg, yn wahanol i’r Saesneg).
Yn 1536 pennodd Deddf Uno Lloegr a Chymru mai Saesneg fyddai’r iaith swyddogol yn y llysoedd ac nad oedd hawl gan y rhai nad oedd yn siarad Saesneg i ddal swydd gyhoeddus. Cafodd y bonedd Cymreig ei Seisnigeiddio’n fwyfwy. Er hynny, ym 1588 y Gymraeg oedd yr iaith gyntaf nad oedd yn iaith wladwriaeth i gael ei chyfieithiad ei hun o’r Beibl, datblygiad a safonodd yr iaith ac a gyfrannodd at ei goroesiad. Yn ystod yr 19eg ganrif, gwaharddwyd y Gymraeg o’r ysgolion a chosbwyd disgyblion am ddefnyddio’i iaith gynhenid. Erbyn 1901 roedd canran siaradwyr Cymraeg wedi gostwng i 50% o’r boblogaeth a pharhaodd y dirywiad drwy gydol yr 20fed ganrif.
O’r 1960au ymlaen, ymatebodd siaradwyr Cymraeg i’r dirywiad hwn drwy ymgyrchu dros ddwyieithrwydd a statws swyddogol i’r iaith. Yn 1980 bygythiodd y gwleidydd Gwynfor Evans ymprydio hyd at farwolaeth i brotestio yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i beidio â pharchu ei haddewid i sefydlu sianel deledu Gymraeg. Ildiodd y llywodraeth a sefydlwyd S4C yn 1982. Nawr mae nifer o raglenni teledu a radio yn y Gymraeg a thua 500 llyfr yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn. Hefyd, mae diwylliant bywiog ynghlwm i’r iaith yn cynnwys y digwyddiad mwyaf pwysig sef yr Eisteddfod Genedlaethol. Ar 7 Rhagfyr 2010 cadarnhawyd statws swyddogol yr iaith gyda Mesur yr Iaith Gymraeg sydd yn ehangu’r ddyletswydd i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith i rai o’r cwmnïau preifat mwyaf.
Cyfrifiad 2001 oedd y cyntaf i gofnodi cynnydd yn nifer y siaradwyr, sydd yn awr tua 20% o’r boblogaeth. Er yr honnir weithiau bod pawb yn y Gogledd yn siarad Cymraeg ac nad oes neb y De yn ei siarad, Sir Gaerfyrddin yn y De-orllewin sydd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg. Mae 11% o boblogaeth y brifddinas yn siarad yr iaith, canran ddwywaith yn uwch nac yn 1991. Er hyn, mae’r canran o siaradwyr yn dal i ostwng yng nghadarnleoedd yr iaith yn y Fro Gymraeg.
Amcangyfrifir bod oddeutu 1,000 o bobl yn parhau i siarad Cymraeg (ynghyd â Sbaeneg) yn y wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yr Ariannin. Gellir ystyried gwrthsafiad y Gymraeg, yn cyd-fyw ag un o ieithoedd mwyaf y byd fel tipyn o wyrth.