Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Mae dewis y cyfieithydd cywir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i gyfieithu ar lafar. Pa un ai cyfarfod busnes, ymweliad ffatri, achos llys, ymweliad ysbyty neu gynhadledd fawr aml-iaith yw eich digwyddiad, mae gan gyfieithwyr ar lafar a thechnegwyr offer cyfieithu BLS y profiad a’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol a gallwch ymddiried yn llwyr yn eu gwaith.
Mae gwahanol fathau o gyfieithu ar lafar:
Fe’i ddefnyddir fel rheol mewn cyfarfodydd, yn y llys, yn ystod cyrsiau hyfforddi neu drafodaethau mewn grwpiau bach. Mae’r cyfieithydd yn gwrando ar yr hyn a ddywedir ac yna’n ei gyfieithu pan fo’r siaradwr yn cael hoe, sef tua phob 10 eiliad. I grwpiau mwy neu phan fo sŵn yn y cefndir, defnyddir systemau cyfieithu ar lafar.
Fe’i defnyddir yn bennaf mewn cynadleddau neu weithdai pan fo nifer fawr o bobl yn bresennol. Mae’r cyfieithydd ar y pryd proffesiynol yn gwrando ac yn cyfieithu ar yr un pryd. Mae’r dull hwn yn gofyn am sgiliau o lefel uchel iawn ac yn waith blinedig, felly mae’r cyfieithwyr yn gweithio fel pâr bron bob tro ac yn defnyddio offer fel bythod gwrthsain, clustffonau a microffonau.
Golyga gyfieithu drwy sibrwd (chuchotage yn Ffrangeg), bod y cyfieithydd yn eistedd neu’n sefyll wrth ymyl y gynulleidfa sy’n siarad yr iaith darged wrth sibrwd cyfieithiad ar y pryd o’r hyn sydd yn cael ei ddweud; does dim angen offer ar gyfer y dull hwn, ond gellir defnyddio meicroffon a chlustffonau os yw’n well gan y cyfranogwyr. Defnyddir chuchotage mewn sefyllfaoedd lle mae mwyafrif o’r siaradwyr yn siarad yr iaith darddiad ac mae yna leiafrif (yn ddelfrydol dim mwy na thri o bobol) nad ydynt yn ei siarad.
Defnyddir cyfieithu cyfryngol pan fo nifer o ieithoedd targed. Mae cyfieithydd o’r iaith darddiad yn cyfieithu’r neges i iaith sy’n gyffredin i’r cyfieithwyr i gyd, sydd wedyn yn ei chyfieithu i’w hieithoedd darged. Er enghraifft, gallai neges mewn Siapaneeg gael ei chyfieithu i Saesneg i grŵp o gyfieithwyr sydd wedyn yn ei chyfieithu i Arabeg, Ffrangeg a Rwsieg ac ieithoedd targed eraill.
Golyga gyfieithu cyswllt drosglwyddo’r hyn a ddwedir i un neu fwy o bobl. Gellir gwneud hyn ar ôl araith fer, neu yn olynol, brawddeg wrth frawddeg, neu fel chuchotage (sibrwd); ar wahân i nodiadau’r cyfieithydd, ni ddefnyddir offer.
Mae Business Language Services (BLS) yn darparu gwasanaeth llogi offer cyfieithu ac offer clyweledol llawn. Byddwn yn eich cynghori ar y trefniant gorau i’ch digwyddiad.
Os ymddiriedwch yn BLS byddwch yn dawel eich meddwl er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich digwyddiad.