[X] Close

Request a Free Quote

Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.

Contact Information

Please upload the file required for translation (optional):

Language Information



 Translation Interpreting Training

  • Business Language Services

Gofynnwch am bris



 Interpreting Translation Training

Language Quiz

Gwasanaethau Cyfieithu ar Lafar

Mae dewis y cyfieithydd cywir yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i gyfieithu ar lafar. Pa un ai cyfarfod busnes, ymweliad ffatri, achos llys, ymweliad ysbyty neu gynhadledd fawr aml-iaith yw eich digwyddiad, mae gan gyfieithwyr ar lafar a thechnegwyr offer cyfieithu BLS y profiad a’r sgiliau proffesiynol angenrheidiol a gallwch ymddiried yn llwyr yn eu gwaith.

Mae dau brif fath o gyfieithu ar lafar:

Cyfieithu Olynol

Fe’i defnyddir fel rheol mewn cyfarfodydd, yn y llys, yn ystod cyrsiau hyfforddi  neu drafodaethau mewn grwpiau bach. Mae’r cyfieithydd yn gwrando ar yr hyn a ddywedir ac yna’n ei gyfieithu pan fo’r siaradwr yn cael hoe, sef tua phob 10 eiliad. I grwpiau mwy neu phan fo sŵn yn y cefndir, defnyddir systemau cyfieithu ar lafar tywysol.

Cyfieithu ar y Pryd

Fe’i defnyddir yn bennaf mewn cynadleddau neu weithdai pan fo nifer fawr o bobl yn bresennol. Mae’r cyfieithydd ar y pryd proffesiynol yn gwrando ac yn cyfieithu ar yr un pryd. Mae’r dull hwn yn gofyn am sgiliau o lefel uchel iawn ac yn waith blinedig, felly mae’r cyfieithwyr yn gweithio fel pâr bron bob tro ac yn defnyddio offer fel bythod gwrthsain, clustffonau a microffonau.

Mae Business Language Services (BLS) yn darparu gwasanaeth llawn o offer cyfieithu ar y pryd ac yn cynnig offer clyweledol ar log. Byddwn yn eich cynghori ar y trefniant gorau i’ch digwyddiad.

Os ymddiriedwch yn BLS byddwch yn dawel eich meddwl er mwyn i chi allu canolbwyntio ar eich digwyddiad.
I drafod eich anghenion neu i gael pris, cliciwch yma neu ffoniwch 02920 667666.