Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Os ydych chi’n chwilio am gwmni gwasanaethau ieithyddol dibynadwy, cyfeillgar a chystadleuol, rydych chi wedi dod i’r lle cywir. Mae gennym ymagwedd hyblyg a phersonol i’ch anghenion ieithyddol chi. Mae ein gwaith yn bwysig i ni a gwnawn bob ymdrech i feithrin perthynas werthfawr gyda’n cwsmeriaid yn ogystal â gyda’n cyflenwyr.
Sefydlwyd Business Language Services Ltd yn 1990, yn wreiddiol fel busnes teuluol. Mae bellach yn un o ddarparwyr gwasanaethau ieithyddol mwyaf blaenllaw Cymru. Fe symudom i swyddfeydd newydd yn y brifddinas ym Mawrth 2010 er mwyn ymateb i’r galw cynyddol am ein gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a hyfforddi. O’n cartref newydd mewn lleoliad blaenllaw yng nghanol dinas Caerdydd, rydym nawr yn haws fyth i’n cyrraedd ac yn cynnig cyfleusterau o’r radd flaenaf i’n cwsmeriaid.
Rydym yn aelod llawn o’r Gymdeithas Cwmnïau Cyfieithu (ATC) ac yn aelod corfforedig o Sefydliad Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (ITI).
Os oes gennych gwestiwn codwch y ffôn a byddwn yn hapus i’ch helpu.
Mae gan ein tîm angerdd tuag at ieithoedd. Mae gennym dîm dibynadwy o staff llawn amser, yn cynnwys cyfieithwyr profiadol, cyfieithwyr ar y pryd a thiwtoriaid mewn llawer o ieithoedd Ewropeaidd. Rydym hefyd yn gweithio gyda rhwydwaith eang o arbenigwyr ieithyddol yn cynnwys llawer a fu gyda ni o’r dechrau.
Rheolwr Gyfarwyddwr:Adam Burman
Yn feistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA), mae Adam yn rhugl yn y Sbaeneg wedi byw ac astudio yn Seville (Sbaen) a San Sebastian (Gwlad y Basg) am flynyddoedd maith. Mae’n siarad sawl iaith Ewropeaidd, yn cynnwys Ffrangeg a rhywfaint o Eidaleg a Phortiwgaleg. Ar ôl graddio gyda BA (Anrhydedd) mewn Sbaeneg, gwnaeth ei radd feistr mewn gweinyddu busnes yn Ysgol Fusnes Caint a Phrifysgol Deusto (San Sebastian). Bu Adam yn gweithio fel cyfrifydd rheolaethol i gwmni daliannol diwydiannol ac fel cyfieithydd proffesiynol o’r Sbaeneg i Saesneg am flynyddoedd lawer. Mae’n aelod llawn (MCIL) o Sefydliad yr Ieithyddion (IOL). Ymhlith ei dasgau eraill, mae Adam yn gyfrifol am reolaeth gyffredinol y cwmni gyda ffocws arbennig ar arolygu holl waith cyfieithu BLS.
Cymwysterau: BA (Anrhydedd) Sbaeneg, MBA, MCIL, TEFL (Tystysgrif Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor), Aelod o Sefydliad Siartredig Datblygu Personél (CIPD).
Rheolwr Hyfforddiant Ieithoedd: Emmanuelle Peraldi
Ffrances yw Emmanuelle. Astudiodd Saesneg a chyfieithu yn Ffrainc cyn symud i’r Almaen am flwyddyn. Bu’n gweithio i BLS ers 1999 gan sicrhau cymhwyster fel tiwtor yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n gyfrifol am weithrediad esmwyth pob cytundeb hyfforddi iaith ac am lunio cyrsiau pwrpasol.
Cymwysterau: MA (cyfwerth) Llenyddiaeth a Diwylliant Seisnig, Diplomâu mewn Cyfieithu a Chyfieithu Cynhadledd, PGCE/PcET (Tystysgrif ôl-radd mewn Addysg/Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol), Aelod o Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion.
Uwch Reolwr Prosiectau: Kate Figueredo
Astudiodd Kate Sbaeneg ym Mhrifysgol Salamanca (Sbaen) a Southampton cyn symud i Dde America i ddysgu Saesneg fel iaith dramor. Mae’n rhugl yn y Sbaeneg a hefyd yn siarad Eidaleg a Phortiwgaleg. Yn ogystal â rheoli prosiectau aml-iaith, mae’n cyfieithu o Sbaeneg i Saesneg ac yn prawf ddarllen a golygu testunau yn Saesneg a Sbaeneg.
Cymwysterau: BA (Anrhydedd) Sbaeneg, MA mewn Cyfieithu gyda Thechnoleg Iaith, CETLA (Tystysgrif Dysgu Saesneg i Oedolion), Ardystiad SDL
Is Reolwr Prosiectau: Esyllt Meurig
Cyn dychwelyd i Gymru ym mis Medi 2010, bu Esyllt yn byw ym Mrwsel am ddeng mlynedd. Gweithiodd yn gyntaf i ffederasiwn chwaraeon rhyngwladol ac yna i sefydliad Ewropeaidd. Mae’n siarad Cymraeg a Saesneg fel ieithoedd cyntaf ac mae’n rhugl yn Ffrangeg a Sbaeneg. Mae’n helpu gyda rheoli prosiectau yn ogystal â gwaith cyfieithu yn yr ieithoedd a enwir uchod.
Cymwysterau: BA (Anrhydedd) Ffrangeg a Sbaeneg
Rheolwr Cyfrifon: Graham Shimmel
Cyflawnodd Graham radd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddo dros ddeng mlynedd o brofiad cyfrifo ac mae’n gyfrifol am weithrediad dyddiol cyllid y cwmni.
Cymwysterau: BSc (Anrhydedd) Economeg