Ein gwasanaethau
Rydym yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer eich holl anghenion ieithyddol. Dewiswch wasanaeth o’r rhestr isod...
Fill out the form to request a quote. There is no cost or commitment, and we never share your information.
Rydym yn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer eich holl anghenion ieithyddol. Dewiswch wasanaeth o’r rhestr isod...
Ffoniwch ni i drafod eich anghenion neu i gael pris, byddem yn hapus iawn i siarad â chi!
02920 667666Mae ein gwaith yn bwysig i ni a gwnawn bob ymdrech i feithrin perthynas adeiladol gyda’n cwsmeriaid yn ogystal â gyda’n cyflenwyr.
Mae Business Language Services (BLS) wedi bod yn helpu cwmnïau i groesi ffiniau ieithyddol a diwylliannol ers 1990 ac mae wedi sicrhau enw da fel un o ddarparwyr gwasanaethau ieithyddol mwyaf blaenllaw'r Deyrnas Unedig, yn gwasanaethu busnesau a phobl broffesiynol ledled y byd.
Mae BLS yn cynnig yr ystod lawn o wasanaethau ieithyddol yn cynnwys gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar lafar ar y pryd ac yn olynol, hyfforddi ieithyddol a diwylliannol, cysodi, prawf ddarllen, trosleisio, telefarchnata mewn ieithoedd tramor ac ymgynghori ieithyddol. Rydym yn cyfieithu o ac i bron bob iaith a ddefnyddir heddiw – felly pa un ai yr hoffech gyfieithiad Cymraeg, Sbaeneg, Pwyleg neu Berseg, ffoniwch ni neu defnyddiwch ein ffurflen ‘Gofynnwch am Bris’ am fwy o wybodaeth.
Rydym yn llwyddiannus am ein bod yn gwrando ar ein cwsmeriaid ac yn cydweithio gyda nhw. Cwsmeriaid sy’n galw’n gynyddol am wasanaeth o ansawdd uchel, gwasanaeth sydd yn ymatebol, yn broffesiynol ac yn gefnogol. Dim ond darparwr gwasanaethau ieithyddol o sylwedd sydd yn gallu darparu’r fath wasanaeth. Rydym yn ystyried y berthynas hirdymor gyda’n cwsmeriaid fel arwydd ein bod yn darparu’r gwasanaeth a’r ansawdd sydd eu hangen arnynt. Rydym hefyd yn ddiolchgar eu bod yn dweud wrth eraill am BLS.